Cynhelir Stroliwch a Roliwch 16 - 27 Mawrth 2026

0 o ysgolion wedi cofrestru

0 o ddisgyblion yn cymryd rhan

Cofrestrwch eich ysgol nawr ar gyfer her cerdded, olwyno, sgwtera a beicio i’r ysgol fwyaf y DU.

Mae Stroliwch a Roliwch yn ysbrydoli disgyblion i wneud gwahaniaeth iddyn nhw eu hunain, eu cymuned, a’u byd drwy wneud siwrneiau egnïol i’r ysgol.

Mae Stroliwch a Roliwch yn agored i holl ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ysgolion ADY. Mae cymryd rhan am ddim ac mae gwobrau dyddiol i’w hennill.

Ar bob diwrnod yr her, bydd disgyblion yn cystadlu i weld pwy all gael y ganran uchaf o’u disgyblion yn cerdded, yn defnyddio cadair olwyn, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol. Bydd pum niwrnod gorau eich ysgol yn penderfynu ar eich safle terfynol, ond gallwch gofnodi siwrneiau bob un o’r 10 niwrnod, pe dymunech.

Faint o siwrneiau llesol fydd eich disgyblion yn eu gwneud?

Mae’r adnoddau am ddim yn cynnwys:

  • lluniau gwersi sy’n cysylltu â’r cwricwlwm
  • Poster
  • Canllaw cynhwysiant
  • Cyflwyniad ar gyfer gwasanaeth boreol ysgolion

Bydd cyfle i ysgolion ennill gwobrau dyddiol yn cynnwys offer ac ategolion os bydd dros 15% o’u disgyblion yn cerdded, yn defnyddio cadair olwyn, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol ar y diwrnod hwnnw yn yr her.

Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at: bigwalkandwheel@walkwheelcycletrust.org.uk

Os hoffech ddefnyddio Stroliwch a Roliwch fel cyfle i godi arian ar gyfer Walk Wheel Cycle Trust a’n helpu i alluogi miloedd o blant i gerdded, defnyddio cadair olwyn, sgwtera neu feicio i’r ysgol bob dydd, cysylltwch â ni ar supporters@walkwheelcycletrust.org.uk a byddwn yn darparu cefnogaeth ac arweiniad.

Neu os hoffech ddysgu mwy am Walk Wheel Cycle Trust a chyfrannu i’n helpu i gyflawni ein uchelgais, gallwch wneud hynny yma.

Mae Schwalbe, prif noddwr Stroliwch a Roliwch, yn cynnig system ailgylchu ar gyfer hen diwbiau mewnol er mwyn defnyddio'r deunydd a adferwyd wrth gynhyrchu nwyddau newydd.

Defnyddiwch y map hwn i ddod o hyd i werthwr sy’n ailgylchu tiwbiau yn eich ardal chi a gallwch ddanfon eich hen diwbiau beic yno.